P'un a ydych yn cynnal cyfweliadau, yn darparu hyfforddiant, yn cynnal cyfarfod, yn trefnu arddangosfa neu'n cynllunio cynhadledd, mae Canolfan Fusnes Conwy yn cynnig ystod o ofodau hyblyg i ddiwallu eich gofynion.
Mae ein cyfleusterau'n cynnwys ystafelloedd cyfarfod modern a neuadd gynadledda ac arddangos bwrpasol, gan ddarparu amgylchedd proffesiynol ar gyfer amrywiaeth eang o ddigwyddiadau. Wedi'i lleoli'n gyfleus gyda chysylltiadau trafnidiaeth rhagorol a pharcio am ddim ar y safle, rydym mewn sefyllfa ddelfrydol i groesawu cynadleddwyr o bob rhan o Ogledd Cymru a thu hwnt.
Mae ein tîm cyfeillgar a phrofiadol wrth law i'ch cefnogi drwy gydol y broses, o'ch ymholiad cychwynnol hyd at ddiwrnod eich digwyddiad. Gallwn eich helpu gyda threfniadau ystafelloedd, trefniadau arlwyo a chymorth technegol, gan helpu i sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth.
Mae amser cinio ac egwyliau coffi yn rhoi cyfle croesawgar i gynrychiolwyr gymryd hoe fach ac i ailwefru rhwng sesiynau. Rydym yma, yn Ganolfan Fusnes Conwy, yn falch o gefnogi busnesau lleol drwy ddarparu lluniaeth ac arlwyo o safon gan gyflenwyr lleol dibynadwy. Mae ein holl brydau cinio yn cael eu paratoi'n ffres a'u dosbarthu gan arlwywyr lleol.
Os hoffech fwy o wybodaeth am y gwasanaethau rydym yn ei gynnig neu argaeledd ystafelloedd, cysylltwch â ni:
Rydym yn edrych ymlaen i weithio gyda chi!

