Brenig

Ystafell eang ac amlbwrpas, mae Brenig yn ddewis ardderchog ar gyfer cyfarfodydd, sesiynau hyfforddi a gweithdai. Gyda sgrin gyflwyno 75 modfedd, mae'r ystafell yn cynnig amgylchedd proffesiynol ar gyfer cyflwyniadau, trafodaethau ac i ymgysylltu â chynadleddwyr.

Wedi'i lleoli'n gyfleus ger Neuadd Geirionydd, mae Brenig yn berffaith ar gyfer arlwyo, cofrestru neu fel man tawel i ymneilltuo yn ystod cynadleddau ac arddangosfeydd, gan gynnig hyblygrwydd i gefnogi digwyddiadau o bob maint.

Uchafswm nifer o bobl:

  • Cynllun Cabaret: Hyd at 24 o gynadleddwyr
  • Cynllun Siâp U: Hyd at 18 o gynadleddwyr
  • Cynllun Bwrdd Cyfarfod: Hyd at 22 o gynadleddwyr
  • Cynllun Theatr: Hyd at 45 o gynadleddwyr

P'un a'i yn cael ei defnyddio fel ystafell gyfarfod annibynnol neu fel gofod ychwanegol ochr yn ochr â Neuadd Geirionydd, mae Brenig yn cynnig amgylchedd ymarferol a hyblyg ar gyfer amrywiaeth eang o ddigwyddiadau.