Rydym yn cymryd eich preifatrwydd o ddifri a byddwn ond yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i ddarparu’r gwasanaethau yr ydych wedi gwneud cais amdanynt. Ni fyddwn yn rhannu eich data gyda neb arall, ac eithrio at ddibenion sy’n ofynnol gan y gyfraith, megis i ddiogelu rhag twyll – gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am sut rydym yn ymdrin â’ch gwybodaeth bersonol drwy ymweld â www.conwy.gov.uk/diogeludata.
Mae ffurflenni a rhaglenni ar wefan Conwy sy'n gofyn i chi am eich gwybodaeth bersonol. Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni ac rydym eisiau eich sicrhau y byddwn yn ymddwyn mewn modd cyfrifol ac y gallwch ymddiried ynom bob amser pan fyddwn yn delio â'ch gwybodaeth bersonol.
Dim ond pan fydd eisiau eich manylion personol arnom i ddarparu gwasanaethau neu i gynllunio darpariaeth gwasanaethau yn y dyfodol, y byddwn yn gofyn am y manylion hyn. Mae'r wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i ni yn cael ei chadw mewn cronfeydd data y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn berchen arnynt neu gan sefydliad a ddewiswyd i ddarparu gwasanaethau ar ein rhan.
Bydd ein ffurflenni fel arfer yn dweud wrthych chi sut fyddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth ac ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol â chwmnïau, busnesau nac unigolion eraill, oni bai bod y gyfraith yn gofyn am hynny. Cewch ragor o wybodaeth yma: Sut mae'r Cyngor yn defnyddio eich gwybodaeth.
Gallwch ddarllen rhagor am gyfleuster taliadau ar-lein Conwy trwy ddilyn y ddolen hon.
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i gofio pethau fel pa iaith rydych wedi'i dewis, y drefn rydych wedi bod yn edrych ar dudalennau neu ydych chi wedi ymweld â'r safle o'r blaen. Gallwch weld rhestr o'r cwcis rydym yn eu defnyddio isod.
Ffeil destun fechan yw 'cwci', y mae porwr y we yn ei hysgrifennu ar eich cyfrifiadur. Nid yw'n cwcis yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol; dim ond marcwyr ydynt i gofio’r pethau rydych chi wedi'u dewis pan fyddwch yn ymweld â'r safle.
Mae 2 fath o gwci:
Gallwch ddysgu rhagor ar wefannau fel y wefan hon: www.allaboutcookies.org neu www.aboutcookies.org
Gallwch osod eich porwr gwe i ganiatáu, atal neu ofyn i chi am benderfyniad pan ddefnyddir cwcis. Gyda rhai porwyr, gallwch ganiatáu cwcis sesiwn, hyd yn oed os ydych eisiau atal mathau eraill ohonynt. Rydym yn argymell eich bod yn galluogi o leiaf cwcis sesiwn ar gyfer y wefan hon, fel bod swyddogaethau sylfaenol fel eich dewis iaith yn gweithio'n gywir.