Cwestiynau â ofynnir yn aml

Beth yw oriau agor y ganolfan?

Mae’r ganolfan ar agor o 8.30am tan 5.00pm ddydd Llun i ddydd Iau a 8.30am tan 4.30pm ddydd Gwener, fodd bynnag mae’n bosib llogi ystafelloedd tu allan i’r oriau hyn drwy drefniant. Siaradwch ac aelod o’r tîm i drefnu.

 

A yw’r adeilad yn hygyrch?

Mae’r Ganolfan Fusnes yn leoliad hygyrch gyda ystod eang o gyfleusterau i gwrdd â’ch gofynion.

 

A oes gan y Ganolfan Fusnes Wi-Fi?

Mae Wi-Fi cyflenwol yn y Ganolfan a all holl ymwelwyr ddefnyddio, mae manylion yr ystafell gyfarfod neu gofynnwch yn y dderbynfa am fwy o fanylion.

 

A oes cyfleusterau llungopïo ar gael?

Oes, gofynnwch yn y dderbynfa.

 

Oes maes parcio yn y ganolfan?

Mae parcio am ddim ar gael ym mlaen a chefn yr adeilad.

 

Oes lluniaeth ar gael?

Mae coffi wedi ei hidlo ac amrywiaeth eang o de ar gael am £2.40 y person, pob egwyl neu am £2.80 y pen i gynnwys bisgedi. Gall ychwanegu toesenni i'ch egwyl bore am £2.50 y pen neu gacen i egwyl y prynhawn am £2.10 y pen.

Mae bwffe amser cinio yn cychwyn o £6.65 y pen.

Gellir trefnu bwyd poeth hefyd, siaradwch ag aelod o'r tîm ac mi wnawn ein gorau glas i drefnu beth yr hoffech.

 

Oes bwytai a siopau o fewn pellter cerdded?

Mae McDonalds and KFC wrth ymyl y Ganolfan Fusnes, a Pizza Hut yng nghefn y parc adwerthu y tu hwnt i Cineworld.  Mae Tesco a Gorsaf petrol ar draws y gylchfan a threfi Cyffordd Llandudno a Chonwy yn agos.