Cronfa Cyfarpar Cyfalaf SMART – Galwad GystadleuolMae Cronfa Cyfarpar Cyfalaf SMART yn cefnogi sefydliadau yng Nghymru i wella cynhyrchiant, cystadleurwydd a thwf cynaliadwy drwy fuddsoddi mewn cyfarpar cyfalaf newydd ac arloesol. Mae hyn yn cynnwys digideiddio, awtomeiddio a thechnolegau gweithgynhyrchu uwch.
Mae’r gronfa gystadleuol hon yn cefnogi buddsoddiad mewn technolegau, offer a phrosesau newydd sy’n galluogi sefydliadau i greu mwy o werth o’r adnoddau y maent yn eu defnyddio, gan gynnwys pobl, deunyddiau, ynni ac asedau.
Mae grantiau o £50,000 i £250,000 ar gael. Rhaid i brosiectau fod â chostau cyfalaf cymwys o leiaf £100,000. Fel arfer, gall cyllid gefnogi hyd at 50% o gostau cyfalaf cymwys, yn amodol ar y gyfradd ymyrraeth berthnasol. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y caiff unrhyw amrywiad i’r uchafswm cyllid ei ystyried
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 23:59 ar 25 Medi 2026.
Cyhoeddi penderfyniadau dyfarnu: Wythnos yn dechrau ar 26 Hydref 2026.
Rhai cyflwyno’r hawliad terfynol a thystiolaeth o wariant a dalwyd erbyn: 31 Ionawr 2027.
Effaith cynhyrchiant i’w ddangos erbyn: 31 Mawrth 2028