Rhaglen Fenter Small & MightyMae Small Business Britain yn llawn cyffro i gyflwyno’r rhaglen Small & Mighty i hybu twf busnesau bach drwy arweiniad a mentora gan arbenigwyr, a fydd yn dechrau ar 18 Medi mewn partneriaeth â Xero ac ARU Peterborough.
Erbyn diwedd y rhaglen chwech wythnos hon i ysbrydoli unig fasnachwyr a busnesau micro bydd y cyfranogwyr wedi llunio cynllun twf yn sail ar gyfer cyfleoedd busnes yn y flwyddyn i ddod. Mae’r rhaglen i gyd ar-lein ac ar gael ymhobman yn y Deyrnas Unedig, a chynigir cyfleoedd dysgu hyblyg i bawb.
Beth mae’r cwrs yn ei gynnwys?
• Sesiynau wythnosol wedi’u recordio’n fyw a’u rhoi ar wefan breifat Small Business Britain ar gyfer cyfranogwyr y cwrs yn unig
• Taflenni gwaith wythnosol i hybu’r dysgu, wedi’u llunio gan hyfforddwyr arbenigol yr wythnos a’u rhannu ar y wefan breifat
• Awr o fentora un i un ac mewn grŵp dros y chwe wythnos gyda mentoriaid arbenigol o bob cwr o’r Deyrnas Unedig
• Bod yn rhan o gymuned arbennig a chefnogol a chael gofyn ac ateb cwestiynau, elwa ar wybodaeth arbenigwyr ac athrawon, rhannu profiadau a rhwydweithio â busnesau bach eraill.
Dyddiadau’r cwrs:
• Modiwl 1: 18 Medi 10am – 12pm
• Modiwl 2: 25 Medi 10am – 12pm
• Modiwl 3: 2 Hydref 10am – 12pm
• Modiwl 4: 9 Hydref 10am – 12pm
• Modiwl 5: 14 Hydref 10am – 12pm
• Modiwl 6: 23 Hydref 10am – 12pm
Diolch o galon i Xero ac ARU Peterborough am fod yn bartneriaid â ni ar gyfer y rhaglen.