Mae Canolfan Ddiwylliant Conwy ar agorMae Canolfan Ddiwylliant Conwy yn gartref i’r Llyfrgell Ardal newydd (yn disodli’r llyfrgelloedd yn Neganwy, Cyffordd Llandudno a Chonwy) ac mae’n cynnwys arddangosfeydd treftadaeth newydd bywiog yn llawn gwrthrychau a lluniau sy’n adrodd hanes cyfoethog y sir.
Yr oriau agor yw:
Dydd Llun 09.30 – 17.00
Dydd Mawrth 10.00 – 19.00
Dydd Mercher 09.30 – 17.00
Dydd Iau 09.30 – 17.00
Dydd Gwener 09.30 – 17.00
Dydd Sadwrn 10.00 – 13.00
Gall ymwelwyr fwynhau’r cynnyrch lleol gorau, bwyd a choffi yn y Cantin, y bwyty a’r caffi sydd wedi agor yn ddiweddar.
Yna, yn y gwanwyn bydd Gwasanaeth Archif y sir yn symud eu casgliadau i’r islawr (a ddyluniwyd yn benodol ar gyfer cynnal tymheredd cyson a lleithder i ddiogelu eitemau bregus) ac yn agor cyfleusterau’r archif a’r ystafell chwilio archifau i’r cyhoedd.
Bydd y mannau sydd wedi’u tirlunio o amgylch y ganolfan yn cynnwys gardd synhwyraidd heddychlon gyda llwybrau a seddi hygyrch sy’n ystyriol o bobl â dementia.
Trefnir seremoni agoriad swyddogol yn y gwanwyn 2020.
Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Sam Rowlands: “Mae’r ganolfan newydd wych hon yn dod ag amrywiaeth o wasanaethau ynghyd o dan un to. Bydd y gofod a adeiladwyd yn bwrpasol yn ein helpu i ddarparu gwasanaethau mwy hyblyg gydag oriau agor hwy, tra’n lleihau costau cynnal.”
Dywedodd y Cyng. Mark Baker, Aelod Cabinet Treftadaeth a Diwylliant Cabinet Conwy: “Bydd Canolfan Ddiwylliant Conwyn yn drysordy ein harchifau, er mwyn cadw a diogelu ein heitemau hanesyddol. Bydd y ganolfan yn gwasanaethu fel canolfan ar gyfer y gymuned leol, a phorth i hanes Sir Conwy.”
Ariennir y Ganolfan Ddiwylliant a’r ardd synhwyraidd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Llywodraeth Cymru (yr Isadran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd), Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru, Cronfa Gymunedol Gwynt y Môr mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Celfyddydau Conwy, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cronfa Cymunedau LDT, Cronfa Addysg Thomas Howell ar gyfer Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru.