GwerthwchiGymru – Eich cyfle i ennill busnes gan y sectorcyhoeddus

Ffynhonnell wybodaeth a phorth caffael yw’r wefan GwerthwchiGymru newydd a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru. Ein nod yw:

  • helpu busnesau i ennill contractau sector cyhoeddus ar draws Cymru
  • helpu prynwyr sector cyhoeddus i hysbysebu a rheoli cyfleoedd tendr
  • helpu busnesau i hyrwyddo eu gwasanaethau
  • helpu busnesau i ddod o hyd i gyfleoedd tendro addas

Bob blwyddyn bydd gwerth biliynau o bunnoedd o gontractau ar gyfer nwyddau a gwasanaethau sector cyhoeddus yn cael eu hysbysebu ar y wefan hon. Caiff y contractau hyn eu cynnig gan amrywiaeth eang o gyrff sy’n cael eu hariannu drwy ffynonellau cyhoeddus, yn cynnwys:

  • Llywodraeth Cymru
  • awdurdodau lleol
  • ymddiriedolaethau GIG
  • colegau a phrifysgolion

https://www.gwerthwchigymru.llyw.cymru/

SHARE ON