Croeso i Bawb – Cynllun Hygyrchedd NewyddMae busnesau twristiaeth a lletygarwch ledled Cymru’n cael eu hannog i wneud cais am gynllun grant newydd gwerth £2 filiwn i wella hygyrchedd a chreu profiadau mwy cynhwysol i ymwelwyr, yn ôl cyhoeddiad Gweinidog y Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price.
Mae’r cynllun grant Croeso i Bawb yn lansio heddiw i gefnogi gwelliannau ymarferol sy’n helpu i gael gwared ar rwystrau i ymwelwyr anabl a’r rhai sy’n teithio gyda nhw. Wedi’i ariannu gan Croeso Cymru, nod y fenter newydd hon yw cynorthwyo busnesau twristiaeth a lletygarwch i greu amgylcheddau ymwelwyr mwy hygyrch, cynhwysol a chroesawgar, gan sicrhau y gall ystod ehangach o bobl fwynhau ac ymgysylltu â phrofiadau twristiaeth ledled Cymru.
Mae tua 25% o deithiau gwyliau dros nos i Gymru yn cynnwys rhywun â nam neu ofynion hygyrch. Mae gwella hygyrchedd yn helpu mwy o bobl i fwynhau Cymru yn hyderus.
Mae manylion llawn am yr hyn y gallai’r cynllun ei gefnogi dal i’w cadarnhau, ond mae enghreifftiau’n cynnwys toiledau ac ystafelloedd gwely hygyrch, llwybrau a dolenni clyw gwell, mannau chwarae cynhwysol, mannau synhwyraidd, mannau gorffwys, seddi awyr agored hygyrch a llwybrau ymwelwyr gwell sy’n gwneud mannau ymwelwyr yn fwy croesawgar a phleserus i bawb.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Croeso i Bawb yw 21 Medi 2026 5pm.