Adnoddau Newydd Am Ddim i Gefnogi Gweithleoedd Actif yng Ngogledd Cymru

Mae Gogledd Cymru Actif, gyda chefnogaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwalader, wedi lansio cyfres newydd o adnoddau am ddim i helpu gweithleoedd i annog eu staff i symud mwy – ac i deimlo’n well – yn ystod y diwrnod gwaith.

Mae’r adnoddau ymarferol hyn yn cynnig ffyrdd syml ac effeithiol i wella lles, cynyddu cynhyrchiant, a meithrin diwylliant gwaith iachach ac mwy actif.

Dyma beth sydd ar gael:

✅ 10 fideo hawdd eu dilyn i weithwyr – perffaith ar gyfer egwyl oddi wrth y ddesg neu sesiwn gyflym gartref
✅ Pecyn cymorth ymarferol i gyflogwyr – cam wrth gam, i’ch helpu i ymgorffori symud yn naturiol yn y gweithle
✅ Templed polisi – i’ch helpu i roi y polisi ar waith yn syth
✅ Gwybodaeth am fenter Sgidiau Symud – sy’n annog y gweithlu i wisgo esgidiau cyfforddus i’r gwaith er mwyn gwneud symud yn haws

Mae’r adnoddau dwyieithog hyn wedi’u creu gyda mewnbwn gan arbenigwyr o Brifysgol Bangor a Chymru Iach ar Waith.

Edrychwch ar yr holladnoddau yma

SHARE ON