2026/07 – Galwad newydd am geisiadau ar gyfer gyllideb o dan Gronfa Eiddo Canol TrefMae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn lawnsio rownd bellach o gyllid o dan Gronfa Eiddo Canol Tref o Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru gan gynnig grantiau ar gyfer gwella golwg allanol eiddo masnachol, adfywio canol ein trefi a diwygio eu golwg yn gyffredinol.
Mae’r cynllun yn cynnig cyllid o hyd at 70% ar wariant cyfalaf ar gyfer prosiectau, gyda dyfarniadau o £3,000 hyd at £15,000 yn cael eu cynnig.
Wedi cadarnhau’r dyfarniad bydd yn rhaid i’r holl gynigion fod wedi’u derbyn a’r arian wedi’i hawlio erbyn 26 Chwefror 2027 fan bellaf.
I drafod eich prosiect cysylltwch â:
Katie Minton-Rowlands
Development and Regeneration Project Officer
Telephone no: 01492 577329