Iona, Derbynnydd
Mae Iona yn siaradwr Cymraeg rhugl ac wedi bod yn aelod o'r tîm yma ers i'r Ganolfan Fusnes agor yn 2001.
Cysylltwch â Iona ar ddydd Llun, Mawrth neu fore dydd Mercher gyda'ch ymholiadau llogi ystafell. Mae Iona yn gyfarwydd â phob twll a chornel yn y Ganolfan!
Pan nad yw Iona yn y Ganolfan mai'n brysur ar ei fferm deuluol yn edrych ar ôl eu hanifeiliaid a'u hŵyr ac wyresau.

Catrin, Derbynnydd
Ymunodd Catrin â’r tîm ym mis Medi 2025 ac mae’n gweithio ochr yn ochr ag Iona ar ddydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener. Gyda phrofiad o weithio mewn cynadleddau dros y blynyddoedd ac mae’n edrych mlaen i fod yn rhan o'r diwydiant unwaith eto. Y tu allan i’r gwaith, mae wrth ei bodd yn treulio amser gyda’i merched yn archwilio llefydd newydd a chreu atgofion arbennig fel teulu.

Rob, Gofalwr/Glanhawr
Mae Rob wedi bod gyda ni ers cwpl o flynyddoedd bellach ac mae bob amser yn dod â gwên ac agwedd gadarnhaol i bopeth mae'n ei wneud.
Rob sy'n gyfrifol am osod yr ystafell ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau ac am gadw'r ganolfan yn lan ac yn daclus!
Pan nad yw Rob yn y ganolfan mae'n mwynhau gwylio dramâu ditectif ar y teledu!

John, Gofalwr / Cynorthwyydd Digwyddiadau
Mae John wedi bod gyda ni ers ychydig dros flwyddyn, gan ddod a dros 40 mlynedd o ddoethineb yn y diwydiant gydag ef- os oes unrhyw beth angen ei wneud, mae John eisoes hanner ffordd drwyddo cyn i chi droi rownd!
Boed yn dap sy'n gollwng, golau'n fflachio neu sŵn rhyfedd yn dod o'r bolerdy, John yw'r dyn i'w drwsio!
Pan nad yw'n cadw'r adeilad mewn cyflwr perffaith, mae John yn newid ei focs tŵls am ei offer golff, gan fwynhau awr neu ddwy haeddiannol ar y cwrs. Ac os nad ydi’ o wedi blino’n lan ar ôl hynny, mae'n ôl adref yn mynd i'r afael â phrosiectau DIY!

Steph, Gweinyddwr Digwyddiadau Busnes
Fe ymunodd Steph a ni ym mis Tachwedd 2022 yn dilyn bod yn rhan o'r tîm yn Venue Cymru.
Mae gan Steph profiad eang o weithio ym myd digwyddiadau a chynadleddau, o gyfarfodydd bychain 1:1 i gynadleddau i dros 1000 o fynychwyr yn ystod y 10 mlynedd diwethaf.
Pan nad yw Steph yn y ganolfan mae'n hoffi cymdeithasu a chynllunio ei thaith dramor nesaf!

Iola, Rheolwr Canolfan
Ymunodd Iola â’r tîm ym mis Mehefin 2022 ac mae gyda brofiad gyda o weithio yn y diwydiant digwyddiadau busnes ers dros 12 mlynedd.
Pan nad yw Iola yn rhedeg y ganolfan, mae hi wrth ei bodd yn mynd ar anturiaethau bach gyda’i hwyres! Pan mae ei hwyres wedi cael digon, mae Iola yn cadw ei hun yn brysur drwy fynd am dro, cymdeithasu gyda ffrindiau a mynd i ddosbarthiadau crochenwaith gyda’i merch.