Ein Tenantiaid

yng Nghanolfan Fusnes Conwy

Pwy sydd yma ...

Cyfreithwyr Nelson Myatt 

01492 588 200

Yng Nghyfreithwyr Nelson Myatt, ein nod yw bod yn wahanol… ein nod yw bod yn gyfeillgar ac yn di- drafferth,  a’ch trin â pharch a phroffesiynoldeb. Rydym yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i sicrhau nad oes unrhyw oedi diangen wrth ddelio gyda'ch ceisiadau.

 

Clear Accounting Ltd

Yn ddiweddar, fe unodd Mills & Co, cwmni annibynnol o Gyfrifwyr Ardystiedig Siartredig, gyda Clear Accounting.

Mae ein tîm cyfeillgar o gyfrifwyr a gweithwyr cyllid proffesiynol yn deall bod eich ffigurau yn adrodd hanes cyllid eich busnes a’ch cyllid personol.  Nid cyfrifwyr yn unig ydym ni, rydym ni’n bartner busnes yn eich siwrnai tuag at dwf a llwyddiant.

Mae ein harbenigedd yn mynd y tu hwnt i ddadansoddi ffigurau; rydym ni’n cynnig datrysiadau wedi’u haddasu sy’n cyd-fynd â’ch anghenion penodol.  Pa unai ydych chi’n berchennog busnes bychan sydd yn ceisio deall rheoliadau treth cymhleth, neu’n unigolyn sy’n chwilio am arweiniad ariannol wedi’i bersonoleiddio, mae gennym ni y wybodaeth a’r profiad i’ch arwain drwy bob her ariannol.


Caring Hands Homecare Agency Ltd

Cwmni Gofal Cartref a chafodd ei sefydlu 18 mlynedd yn ôl.

Rydym yn darparu gwasanaeth Gofal Cartref i gleientiaid ledled Sir Gonwy sy'n galluogi iddynt fod yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, rydym wedi cofrestru gyda AGC a GCC.

01492 580055

caringhands23@outlook.com

True Potential Wealth Management

Mae Peter Wilkes o True Potential Wealth Management wedi bod yn helpu unigolion a theuluoedd i gyrraedd eu nodau ariannol ers dros 28 mlynedd. Gan gydnabod bod sefyllfaoedd personol pawb yn unigryw, mae Peter yn cymryd yr amser i ddod i'ch adnabod chi a beth sy'n bwysig. Boed yn ymddeoliad dibryder, yn cynilo ar gyfer addysg eich plant, i gyflawni uchelgais gydol oes, rhedeg busnes llewyrchus neu’n i adael etifeddiaeth i’ch anwyliaid
neu achos sy'n agos at eich calon, gall weithio gyda chi bob cam o’r ffordd.

 

Am ragor o wybodaeth ac i gysylltu â Peter am sgwrs, gymerwch olwg ar ei wefan https://peterwilkes.tpllp.com/

 

The National Organisation for Reducing Stress, Anxiety & Depression

Ymgyrch gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Lleihau Straen, Pryder a Straen, y Swistir yw ReducingSAD – a gredir mai dyma’r gymdeithas meddygaeth atal iechyd meddwl fwyaf yn y byd. Y gangen yma yw ein cyntaf ym Mhrydain.

Mae cynlluniau ar gyfer prosiectau a rhaglenni ymchwil a bydd yn cael eu rhedeg o’r Ganolfan yn cynnwys ymgyrch i leihau straen, pryder ac iselder mewn athrawon, rhieni a phlant ac un arall. bydd yn cael cynnal gyda sefydliad Durgadevi.Financial yn India a’r Swistir, sefydliad ymroddedig cyntaf i weithio gyda phobl sy’n rhedeg busnesau bach a chanolig sydd angen cymorth i ymdopi â’r nifer o heriau iechyd meddwl y gall ddod law yn llaw ac entrepreneuriaeth.

 

Labriola Consultancy

Yn aelod o’r International Association for College Admissions Counselling, mae Dr Daniele Labriola a’i dîm yn rhoi cyngor ar astudiaethau israddedig ac ôl-raddedig, yn ogystal â chynlluniau gyrfa, yn y Deyrnas Unedig, Ewrop gyfandirol a’r Unol Daleithiau. Yn gyn-ddarlithydd prifysgol, fel ymgynghorydd addysg dros y 12 mlynedd diwethaf mae Daniele wedi cynorthwyo teuluoedd a gweithio gyda chwmnïau preifat ac ysgolion, ym Mhrydain ac yn rhyngwladol, ar y ffyrdd gorau o baratoi myfyrwyr ar gyfer haen uchaf addysg uwch.