Defnydd Unigryw o’r Ystafelloedd Cynhadelddau

Mwynhewch ddefnydd unigryw o'n canolfan gynadledda a digwyddiadau amlbwrpas. Gyda dewis o fannau hyblyg y gellir eu deilwra I ofynion eich digwyddiad, rydym yn cynnig yr amgylchedd delfrydol ar gyfer cynadleddau, diwrnodau hyfforddi, gweithdai, arddangosfeydd, digwyddiadau rhwydweithio a digwyddiadau corfforaethol. Mae ein cyfleusterau wedi'u cynllunio i sicrhau profiad proffesiynol a llwyddiannus i bawb.

Manylion Cyfleusterau:

  • Neuadd Geirionydd - Ein gofod digwyddiadau mwyaf, sy'n ddelfrydol ar gyfer cynadleddau, cyflwyniadau, sesiynau prif siaradwyr, gweithdai a gweithgareddau grŵp mawr.
  • Brenig - Ystafell hyblyg ar gyfer arlwyo a lluniaeth, a ellir hefyd ei threfnu fel man trafod, gweithdy neu ardal rwydweithio.
  • Ogwen ac Elsi - Ystafelloedd cyfarfod amlbwrpas sy'n addas ar gyfer sesiynau grŵp llai, gweithdai hyfforddi, seminarau a chyflwyniadau.
  • Tegid - Ystafell gyfarfod breifat sy'n ddelfrydol ar gyfer cyfarfodydd un-i-un, cyfweliadau ac amser paratoi i siaradwyr. Gellir hefyd ei defnyddio fel swyddfa benodol i drefnwyr y digwyddiad, gan ddarparu man tawel a chyfforddus i weithio a chydlynu gweithgareddau'r dydd.
  • Sarnau - Ystafell dawel sy'n addas ar gyfer cyfarfodydd bach, trafodaethau preifat neu fel man lles i fynychwyr digwyddiadau.
  • Y Cyntedd - Lle delfrydol ar gyfer croesawu a chofrestru gwesteion, gyda lle ar gyfer stondinau arddangos, baneri, deunydd hyrwyddo a gweithgareddau rhwydweithio.

Wedi'i Gynnwys gyda Llogi'r Lleoliad

  • Parcio am ddim
  •  Wi-Fi am ddim ledled y ganolfan
  • Sgriniau cyflwyno 75" yn Elsi, Ogwen a Brenig
  • Sgrin cyflwyno 55" yn Tegid
  • Staff ar y safle ar gael i ddarparu cymorth technegol a chlyweledol drwy gydol eich digwyddiad
  • Llogi taflunydd a sgrin ar gael yn Neuadd Geirionydd am gost ychwanegol, gan gynnwys meicroffonau ac offer clyweledol

Mae ein hystafelloedd yn cynnig hyblygrwydd llawn a gellir eu trefnu mewn amrywiaeth o gynlluniau a gosodiadau i weddu i ofynion eich digwyddiad. Os oes gennych unrhyw ofynion penodol, cysylltwch â'n tîm, a byddwn yn falch o drafod yr opsiynau sydd ar gael a'ch cynorthwyo i sicrhau digwyddiad llwyddiannus