Pecyn Gwaith y Ffederasiwn Busnesau BachGyda mwy o bobl yn chwilio ar-lein am gynnyrch a gwasanaethau bob dydd, mae cael presenoldeb cryf ar-lein yn hanfodol.
Mae pecyn gwaith Cael eich Darganfod Ar-lein y Ffederasiwn Busnesau Bach yn dod â chefnogaeth ymarferol gam wrth gam ynghyd i helpu eich busnes bach i gryfhau ei bresenoldeb ar-lein a denu mwy o gwsmeriaid.
Y tu mewn fe welwch chi’r canlynol:
• Canllaw cam wrth gam i greu gwefan ar gyfer eich busnes.
• Cwis Optimeiddio Peiriannau Chwilio cyflym i brofi eich gwybodaeth yn ymwneud â chael eich darganfod ar Google.
• Fideo syml i ddangos sut i sefydlu tudalen Facebook.
• Gweminar a gaiff ei arwain gan arbenigwr i’ch helpu chi i greu strategaeth farchnata sy’n gweithio yn 2026.
P’un ai ydych chi’n cychwyn busnes neu’n awyddus i gryfhau eich ymagwedd, fe gewch gyngor clir y gellir gweithredu arno wedi ei ddylunio’n arbennig ar gyfer busnesau bach.
Dechreuwch greu eich presenoldeb ar-lein heddiw.