
Mae Llywodraeth y DU yn cyflwyno’r Grant Swyddi Ieuenctid.
Os ydych chi’n gyflogwr ac yn barod i gyflogi rhywun rhwng 18 a 24 oed sydd wedi bod ar Gredyd Cynhwysol am chwe mis neu fwy, gallech fod yn gymwys i gael Grant Swyddi Ieuenctid o £3,000 ar gyfer pob penodiad cymwys.
Rhaid i swyddi fod yn rhai sydd am o leiaf 25 awr yr wythnos a disgwylir iddynt bara o leiaf 4 mis i fod yn gymwys i gael Grant Swyddi Ieuenctid.
I ddysgu mwy am sut allai’r Grant eich helpu gyda chyllid i recriwtio person ifanc, lawrlwythwch y Pecyn Cymorth Grant Swyddi Ieuenctid.
Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen hon: Creu Gweithlu’r Dyfodol.