Dŵr Cymru 

Gwybodaeth am Daliadau Iawndal mewn perthynas â’r byrst yn y brif bibell ddŵr yng Ngweithfeydd Trin Dŵr Bryn Cowlyd, Dolgarrog

Cwsmeriaid busnes

Bydd Dŵr Cymru’n talu iawndal o £75 i bob busnes yr effeithiodd y byrst ar eu cyflenwadau dŵr am bob 12 awr y buont heb gyflenwad.

Ochr yn ochr â hyn, mae Dŵr Cymru wedi cytuno i dalu cyfraniadau ewyllys da i bob cwsmer busnes tuag at gostau penodol/am golledion elw gros hefyd.

Amlinellir y manylion cymhwyster, y meini prawf, a’r broses o ymgeisio am gyfraniad ewyllys da tuag at gostau/colledion elw gros isod.

Meini prawf cymhwyster

Rhaid bodloni’r meini prawf canlynol er mwyn i’ch busnes fod yn gymwys i gael taliad ewyllys da.

  • Rhaid i chi fod yn gwsmer busnes y mae’r byrst yn y brif bibell ddŵr yng Ngweithfeydd Trin Dŵr Bryn Cowlyd wedi effeithio’n uniongyrchol arnynt.
  • Rhaid i chi fod yn fusnes sydd wedi’i leoli’n barhaol yn lleoliad y cais h.y. nid yn fusnes symudol/teithiol, gan gynnwys gwasanaethau tacsi.
  • Rhaid i’ch busnes fod wedi ei gofrestru gyda CThEF.

Gwneir penderfyniadau am gymhwyster i gael cyfraniad ewyllys da ac unrhyw gyfraniadau eraill yn llwyr ar ddisgresiwn Dŵr Cymru.

Mae dyletswydd ar y busnesau o dan sylw i gymryd pob cam rhesymol i leihau eu costau/colledion elw gros.

Nid yw’r ffurflen gais ar gael ar hyn o bryd.

Dilynwch y ddolen isod am ddiweddariadau

https://bit.ly/3CkYPYb

Yn eich ardal chi | Dŵr Cymru Welsh Water

SHARE ON