Ymchwil ar gyfer Adroddiad Bach 2020
Ydych chi’n berchen ar fusnes bach?
Hoffech chi ennill gwerth £250 o siocled mewn pryd ar gyfer y Nadolig?
Fel diolch am lenwi Arolwg Rhagolygon a Chyfleoedd Busnesau Bach <https://peakb.uk/outlook-opportunities> peak b, bydd enw eich busnes yn cael ei roi mewn het am gyfle i ennill y wobr anhygoel hon sy’n cael ei chyfrannu gan The Chocolate Cellar un o’r 100 busnes bach gwych (SmallBiz100).
Bydd peak b yn lansio Adroddiad Bach 2020 yn gynnar y flwyddyn nesaf yn edrych ar ‘Gyflwr y Genedl’ ar gyfer busnesau bach – sut mae pethau’n mynd ar hyn o bryd a pha gyfleoedd fydd yn codi yn y 5 mlynedd nesaf
Yn ôl yr arfer mae’r adroddiad yn gofyn am fewnbwn gennych chi fel perchennog busnes bach. Byddem yn hynod o ddiolchgar pe gallech roi 5 munud i lenwi’r Arolwg Rhagolygon a Chyfleoedd Busnesau Bach. Bydd y wybodaeth yn ffurfio rhan o adroddiad newydd gyda’r nod o ddeall sut ydych chi a’ch busnes yn ei wneud, yn ogystal ag ymhle yr ydych chi’n meddwl y bydd cyfleoedd (a phethau i gadw llygad amdanynt) yn y dyfodol.
Gallwch lenwi’r arolwg yma <https://peakb.uk/outlook-opportunities> . Diolch – gwyddom fod busnesau bach yn hynod o brysur!