Ydych chi’n cyflogi staff tymhorol neu staff dros dro?
Dylech wirio eich dyletswyddau pensiwn

Dylai busnesau sy’n cyflogi staff tymhorol dros yr haf wirio eu dyletswyddau cofrestru awtomatig ar gyfer pensiwn y gweithle.

Os ydych chi’n cyflogi staff tymhorol neu staff dros dro, rhaid i chi eu hasesu’n unigol bob tro y byddwch yn eu talu. Mae hyn yn cynnwys staff a fydd yn gweithio i chi am ychydig ddyddiau, ychydig wythnosau neu am sawl mis.

Efallai y bydd eich asesiad o bwy ddylai fod mewn cynllun pensiwn yn cymryd mwy o amser ac ymdrech, gan y bydd angen i chi ystyried:

  • mai dim ond am gyfnodau byr y byddan nhw’n gweithio i chi
  • y gallant ymuno a gadael eich cyflogaeth yng nghanol cyfnodau cyflog
  • bod eu henillion a’u horiau yn amrywio

Ewch i wefan y Rheoleiddiwr Pensiynau i weld pa ddyletswyddau cyfreithiol fydd yn berthnasol i chi a beth fydd angen i chi ei wneud ar gyfer staff tymhorol a staff dros dro.

DARLLEN MWY YMA

SHARE ON