Y Gronfa Twf LleolAriennir y rhaglen hon drwy Gronfa Twf Lleol Llywodraeth Cymru ar gyfer Gogledd Cymru, Blwyddyn Bontio 2026-27 ac fe’i darperir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
.I gefnogi cyflwyno’r rhaglen mewn modd amserol, bydd ceisiadau’n cael eu gwahodd cyn i’r cynllun dderbyn cymeradwyaeth ffurfiol gan yr Awdurdod Arweiniol.
Bydd ceisiadau’n cael eu derbyn a gallant gael eu hasesu yn ystod y cyfnod hwn; fodd bynnag, ni ellir dyfarnu unrhyw grantiau hyd nes y bydd cymeradwyaeth ffurfiol wedi’i sicrhau.
Ni ddylid dehongli asesu cais cyn derbyn cymeradwyaeth ffurfiol fel ymrwymiad i ddarparu cyllid.
Datblygwyd Rhaglen Twf a Gwytnwch Busnes Conwy i gefnogi busnesau lleol i:
Mae cyllid ar gael tuag at brosiectau cyfalaf a gwariant refeniw dethol cymwys sy’n cyfrannu at un o flaenoriaethau’r Gronfa Twf Lleol neu fwy.
Mae’r cynllun wedi’i dargedu at fentrau micro, bach a chanolig (sy’n cyflogi hyd at 250 o bobl) gydag un ai trosiant o lai na €50 miliwn neu fantolen lai na €43 miliwn.
Mae’r cynllun grant hwn yn ddewisol a bydd yn cael ei weithredu ar sail y cyntaf i’r felin, yn dibynnu ar argaeledd arian a’r gallu i gwblhau’r prosiect o fewn y cyfnod penodol.
Mae’r manylion llawn o ran y Meini Prawf a Chymhwysedd ar gael YMA
I drafod eich prosiect gydag aelod o’r Tîm Cymorth Busnes, anfonwch e-bost at: busnes@conwy.gov.uk