WebinarMonday 16th November 2026 – 11.00am – 12.00pm
Cost: Am ddim
Mae’r weminar hon yn canolbwyntio ar gontractau cyflogaeth a beth yw eich goblygiadau cyfreithiol fel cyflogwr. P’un a ydych yn recriwtio eich gweithiwr cyntaf neu’n awyddus i ddiweddaru contractau cyfredol, bydd y sesiwn yn rhoi canllawiau ymarferol clir i’ch helpu i gydymffurfio a diogelu eich busnes.
Byddwn yn mynd i’r afael â’r elfennau allweddol y dylai pob contract ei gynnwys, newidiadau diweddar mewn cyfraith cyflogaeth a maglau cyffredin i’w hosgoi. Byddwch hefyd yn cael mewnwelediadau i arferion gorau ar gyfer drafftio a chyhoeddi contractau, deall hawliau gweithwyr ac ymdrin â newidiadau cytundebol.
Mae’r sesiwn hon yn ddelfrydol ar gyfer perchnogion busnes bach, rheolwyr a gweithwyr AD proffesiynol sydd eisiau sicrhau bod eu harferion cyflogaeth yn gadarn yn gyfreithiol ac yn addas at y diben yn y gweithle heddiw.
Pwysig – Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint yng nghymru ac mae wedi’i gyfyngu i ddau gynrychiolydd o bob busnes.
Caiff y digwyddiad hwn ei gyflwyno gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.