Unlock Your Numbers

Rhaglen rad ac am ddim i ddatblygu hyder ariannol busnesau bychain a dangynrychiolir.

Beth am ddarganfod yr adnodd newydd gwych hwn gan Xero a allai eich helpu i ddatblygu eich rheolaeth a’ch dealltwriaeth o faterion ariannol eich busnes.

Mae’n rhaglen datblygu hyder ariannol rhad ac am ddim a luniwyd ar gyfer perchnogion busnesau bychain yn y DU. Mae’r rhaglen hon yn ymwneud â darparu’r wybodaeth ariannol sydd ei hangen arnoch i ffynnu.

Pum munud i ddatblygu eich hyder ariannol

Gall y rhaglen Unlock Your Numbers rhad ac am ddim eich helpu i ddysgu am elfennau ariannol sylfaenol busnes mewn sesiwn 5 munud yr wythnos drwy fideos byr a chanllawiau a mentora syml.

Adnoddau dysgu defnyddiol

Lluniwyd ein fideos, pecynnau gwaith a’n canllawiau i’ch helpu i ddysgu am faterion ariannol eich busnes mewn modd syml heb gymryd gormod o amser allan o’ch amserlen brysur.

Sesiynau mentora rhad ac am ddim i’ch helpu i dyfu

Cyfle i gysylltu â chyfrifydd neu geidwad cyfrifon arbenigol am ddim i ddysgu sut i sicrhau fod eich busnes yn elwa o’n hadnoddau dysgu.

Beth am fod yn Llysgennad Xero For Good?

Mae’r rhaglen Unlock your Numbers yn chwilio am gyfrifyddion a cheidwaid cyfrifon i rannu eu harbenigedd. Gwirfoddolwch i fentora busnes neu sefydliad bychan a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

I ddysgu mwy, ymwelwch â gwefan Unlock Your Numbers

SHARE ON