Small Business Britain – Side Hustle Lab

6 Mai i 10 Mehefin 2026

Os ydych chi’n datblygu busnes bach ar yr ochr sy’n gwerthu cynnyrch ac yn barod i fynd gam ymhellach – mae hwn ar eich cyfer chi.

Mae Side Hustle Lab yn rhedeg am 6 wythnos y mis Mai hwn, ar y cyd ag eBay, i’ch helpu chi i wella eich dull gweithredu, cynyddu gwerthiant, a datblygu’ch busnes bach ymhellach.

Dros y 6 wythnos, cewch ddysgu sut i:

• Gyflwyno’ch cynnyrch i’r cwsmeriaid cywir a gwneud argraff ar-lein
• Prisio yn hyderus a dysgu beth sy’n gwneud elw i chi
• Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial mewn ffyrdd sy’n arbed amser (ac ymdrech) i chi o ddydd i ddydd
• Sicrhau profiad i gwsmeriaid sy’n denu pobl yn ôl dro ar ôl tro
• Cymryd y cam nesaf – boed hynny’n golygu ehangu neu werthu’n rhyngwladol
• Meithrin cysylltiadau â gwerthwyr eraill sydd ar yr un daith

Dyddiadau’r cwrs:

• Modiwl 1 – Dydd Mercher 6 Mai (10am – 11am)
• Modiwl 2 – Dydd Mercher 13 Mai (10am – 11am)
• Modiwl 3 – Dydd Mercher 20 Mai (10am – 11am)
• Modiwl 4 – Dydd Mercher 27 Mai (10am – 11am)
• Modiwl 5 – Dydd Mercher 3 Mehefin (10am – 11am)
• Modiwl 6 – Dydd Mercher 10 Mehefin (10am – 11am)

Llenwodd y cwrs yn gyflym y tro diwethaf felly cofrestrwch nawr i gadw eich lle:

COFRESTRWCH YMA 

SHARE ON