Sesiynau Cymorth i Fusnesau Ar-leinYdych chi’n fusnes sefydledig
neu’n fusnes newydd sy’n chwilio am gymorth?
Bydd Banc Datblygu Cymru a Busnes Cymru yn cynnal cyfres o sesiynau cymorth busnes ar-lein.
Dyddiadau: Dydd Mawrth 11 Awst, 15 Medi, 20 Hydref, 17 Tachwedd 2026
Amser: 10am – 3.30pm
Lleoliad: Microsoft Teams
Fel cynrychiolwyr lleol rydym yn ymroddedig i sicrhau bod y busnesau rydyn ni’n gweithio gyda nhw yn sicrhau’r cyllid a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw i helpu gyda chychwyn neu dyfu.
Byddwn yn eich helpu i ddarganfod mwy am y gefnogaeth leol sydd ar gael ar gyfer eich busnes. Gan weithio gyda’n gilydd gallwn ddarparu cyllid i ddechrau neu ehangu busnes, gan eich cefnogi gydag arian er mwyn prynu offer newydd, neu hyd yn oed brynu busnes.
P’un a ydych chi’n fusnes sy’n dechrau o’r newydd neu’n fusnes sydd eisoes yn bodoli, dewch i siarad â ni am eich busnes a’ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Dewiswch ddyddiad i siarad â ni am eich busnes a’ch chynlluniau ar gyfer y dyfodol drwy glicio ar y ddolen isod.