Seiberddiogelwch
Diogelu eich Cadwyn Gyflenwi, Diogelu eich Dyfodol

Mae Canolfan Siber Gydnerth Cymru yn sefydliad a arweinir gan yr Heddlu ac mae’n rhan o rwydwaith o ganolfannau sy’n helpu busnesau i amddiffyn eu hunain yn erbyn seiberdroseddu.

Gan weithio mewn partneriaethâ Llywodraeth Cymru a thimau Seiberdroseddu Heddluoedd Cymru, nod y ganolfan yw codi ymwybyddiaeth o fygythiad seiberdroseddu, yn ogystal â helpu’r gymuned fusnes i amddiffyn ei hun yn erbyn bygythiad seiberdroseddu.

Mae BBaCHau a sefydliadau yn y trydydd sector yn cael cymorth ac adnoddau am ddim, fel:

Hyfforddiant ymwybyddiaeth o ddiogelwch wedi’i ariannu

Trafodaeth un i un am seiberwydnwch

Adnoddau, canllawiau ac offer ymarferol wedi’u cymeradwyo gan yr Heddlu

Amrywiaeth o wasanaethau technegol wedi’u hariannu’n llawn

Diweddariadau am fygythiadau rhanbarthol a rhybuddion am sgamiau

Newyddion am weminarau, sioeau teithiol, a digwyddiadau rhwydweithio i fusnesau

Cylchlythyr misol

CLICIWCH YMA I GAEL RHAGOR O WYBODAETH

SHARE ON