Rhaglen Fenter Small & Mighty – Chwefror/Mawrth2026

Mae Small Business Britain yn llawn cyffro i gyflwyno’r rhaglen Small & Mighty i hybu twf busnesau bach drwy arweiniad a mentora gan arbenigwyr, a fydd yn dechrau ar 2 Chwefror mewn partneriaeth â Xero ac ARU Peterborough.

Erbyn diwedd y rhaglen chwech wythnos hon i ysbrydoli unig fasnachwyr a busnesau micro bydd y cyfranogwyr wedi llunio cynllun twf yn sail ar gyfer cyfleoedd busnes yn y flwyddyn i ddod. Mae’r rhaglen i gyd ar-lein ac ar gael ymhobman yn y Deyrnas Unedig, a chynigir cyfleoedd dysgu hyblyg i bawb.

Beth mae’r cwrs yn ei gynnwys?

• Sesiynau wythnosol wedi’u recordio’n fyw a’u rhoi ar wefan breifat Small Business Britain ar gyfer cyfranogwyr y cwrs yn unig

• Taflenni gwaith wythnosol i hybu’r dysgu, wedi’u llunio gan hyfforddwyr arbenigol yr wythnos a’u rhannu ar y wefan breifat

• Awr o fentora un i un ac mewn grŵp dros y chwe wythnos gyda mentoriaid arbenigol o bob cwr o’r Deyrnas Unedig

• Bod yn rhan o gymuned arbennig a chefnogol a chael gofyn ac ateb cwestiynau, elwa ar wybodaeth arbenigwyr ac athrawon, rhannu profiadau a rhwydweithio â busnesau bach eraill.

Dyddiadau’r cwrs:

• Modiwl 1: 2 Chwefror 10am

• Modiwl 2: 9 Chwefror 10am

• Modiwl 3: 16 Chwefror 10am

• Modiwl 4: 23 Chweforr 10am

• Modiwl 5: 2 Mawrth 10am

• Modiwl 6: 9 Mawrth 10am

Diolch o galon i Xero ac ARU Peterborough am fod yn bartneriaid â ni ar gyfer y rhaglen.

Cofrestrwch ar gyfer Small & Mighty yma!

SHARE ON