Prosiect SylfaenAllai eich mudiad elwa o gefnogaeth arbenigol am ddim i fod yn fwy effeithiol a chynaliadwy?
Mae Cynnal Cymru a Chanolfan Cydweithredol Cymru yn edrych am 6 mudiad amgylcheddol yn y gymuned yng Nghymru i ymgymryd â thaith datblygu fyddai’n sicrhau fod ganddynt seiliau ariannol, llywodraethu a rheoli cryf.
Gyda chyllid gan Sefydliad y Co-op, rydym yn cynnig rhaglen gymorth am ddim a fydd yn canolbwyntio ar adeiladu gallu a hyder ym meysydd:
blaengynllunio
rheolaeth ariannol
adnoddau dynol
cydymffurfiaeth gyfreithiol
llywodraethu Bwrdd
atebolrwydd cyhoeddus
marchnata a chyfathrebu
cyfrifoldeb amgylcheddo
Rhaglen ledled Cymru yw hon a fydd yn rhedeg rhwng Tachwedd 2019 a Mawrth 2021 ac mae’n agored i bob sefydliad cymunedol sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd.
Bydd ceisiadau yn cau ar y 29 Tachwedd 2019.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Cynnal Cymru .