NatWest yn cynnig grantiau i fusnesau dan arweiniad merched
Mae banc NatWest yn gweithio gyda Crowdfunder i fynd i’r afael â’r cydbwysedd rhyw mewn busnesau bach newydd yn y DU, gyda chyllid a chefnogaeth ategol i roi hwb i fentrau sy’n cael eu harwain gan ferched.
Mae Menter Back Her Business wedi’i chynllunio i helpu mwy o entrepreneuriaid benywaidd i lansio eu busnesau eu hunain. Mae’r ymgyrch yn un ar draws y DU ac mae’n rhan o addewid NatWest i ysbrydoli 400,000 o fusnesau sy’n cael eu harwain gan ferched erbyn 2025.
Mae’r fenter yn gweithio trwy roi platfform ariannu torfol i’r rhai sy’n rhan ohoni i godi’r arian maent ei angen i lansio menter fasnachol, yn ogystal â hyfforddiant, cymorth mentora a chyfleoedd i gyfarfod merched o’r un meddylfryd.
Mae’r banc yn darparu cronfa atodol o £1 miliwn y flwyddyn a bydd yn cynnig grantiau i fusnesau cymwys. Mae angen i ymgeiswyr sefydlu prosiect ariannu torfol gydag isafswm targed o £1,000. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael hyd at 50% o gyllid cyfatebol tuag at eu targed, hyd at uchafswm o £5,000.
Mae’r rhaglen hon ar agor i fusnesau ar gychwyn o’r DU, sy’n cael eu harwain gan ferched a busnesau sydd â gweithgarwch masnachu newydd.
Dywedodd Cheryl Gourlay, Rheolwr Cenedlaethol Merched mewn Busnes NatWest:
“Mae merched yn cychwyn busnesau gyda 53% yn llai o arian ar gyfartaledd na dynion, maen nhw’n aml yn llai ymwybodol o opsiynau ariannu, ac yn llai tebygol o gael benthyciadau. Rydyn ni eisiau gweld hynny’n newid oherwydd bod cyfoeth o ddoniau nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio.
“Mae Back Her Business yn cynnig platfform cyllid agored a chefnogaeth a chymorth mentora rhwng pobl busnes.”
Gellir cyflwyno ceisiadau ar unrhyw adeg.