Modiwl dysgu ar-lein newydd ar Gaethwasiaeth FodernCaethwasiaeth fodern yw ecsbloetio pobl er budd personol neu fasnachol. Mae’n cael effaith ddinistriol ar fywydau pobl ledled Cymru, y DU, a’r byd.
Crëwyd cwrs Dysgu Ar-lein Gwrthgaethwasiaeth Cymru ar gyfer pobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Rydym yn annog yn benodol y rhai sy’n gweithio ac yn gwirfoddoli mewn lleoliadau sydd â risgiau uchel o gaethwasiaeth fodern, a’r rhai sy’n ymgysylltu â phobl a allai fod yn profi neu wedi profi ecsbloetio, i’w gwblhau.
Mae’r cwrs Dysgu Ar-lein Gwrthgaethwasiaeth Cymru yn cynnwys tri modiwl i’ch helpu i ddysgu am ecsbloetio yng Nghymru:
Mae’r cwrs dysgu ar-lein hwn wedi’i ddatblygu gan Lywodraeth Cymru a phartneriaid amlasiantaeth. Mae’r cynnwys wedi cael ei adolygu gan aelodau Fforwm Gwrthgaethwasiaeth Cymru a’i Grŵp Hyfforddi ac Ymwybyddiaeth a Phanel Cynghori Profiadau Bywyd (LEAP) Sefydliad Masnachu mewn Pobl. Dylid ei ystyried ochr yn ochr â Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
Gellir cwblhau’r dysgu hwn ar eich cyflymder eich hun. Gallwch chi gymryd seibiannau pryd bynnag y dymunwch. Ar ôl i chi gwblhau pob modiwl, mae Tystysgrif Cyfranogiad a Chrynodeb o’r Modiwl y gallwch eu cadw ar gyfer eich cofnodion.