Meistroli eich arian, Tyfu eich busnes
Rhwng 3 Mawrth a 7 Ebrill (chwe modiwl)
Mae Small Business Britain a Lloyds Bank Academy yn edrych ymlaen at gael cyflwyno’r rhaglen Meistroli eich Arian, Tyfu eich Busnes i helpu busnesau bach gael trefn ar eu busnes, magu hyder i ddelio â’u materion ariannol a thyfu eu presenoldeb ar-lein.
Bwriad y rhaglen chwe wythnos o hyd yw rhoi eglurder, rheolaeth a hyder i berchnogion busnesau bach fynd i’r afael â’u materion ariannol, eu gweithrediadau, eu presenoldeb ar-lein a chynllunio ar gyfer eu busnes. Bydd yn cael ei gyflwyno’n gyfan gwbl ar lein, sy’n golygu y gall unrhyw un o unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig ei ddilyn, gan ddysgu’n hyblyg o amgylch eu hamserlen eu hunain.
Beth mae’r cwrs yn ei gynnwys?
- Sesiynau wythnosol wedi’u recordio’n fyw a’u rhoi ar wefan breifat Small Business Britain ar gyfer y rhai sydd wedi cofrestru ar gyfer y cwrs yn unig.
- Taflenni gwaith wythnosol i hybu’r dysgu, wedi’u llunio gan hyfforddwyr arbenigol yr wythnos a’u rhannu ar y wefan breifat.
- Awr o fentora un i un gyda mentoriaid arbenigol o bob cwr o’r Deyrnas Unedig.
- Bod yn rhan o gymuned arbennig a chefnogol er mwyn gallu gofyn cwestiynau, elwa ar wybodaeth arbenigwyr, rhannu profiadau a rhwydweithio â busnesau bach eraill.
Dyddiadau a modiwlau’r cwrs:
- Modiwl 1: 3 Mawrth – Materion Ariannol: Cyllidebu fel Meistr
- Modiwl 2: 10 Mawrth – Rheoli eich Arian Parod: Rhoi eich Cyllideb ar Waith
- Modiwl 3: 17 Mawrth – Paratoi eich Trethi ar gyfer Ebrill 2026
- Modiwl 4: 24 Mawrth – Meithrin Presenoldeb Ar-lein gyda Hyder
- Modiwl 5: 31 Mawrth – Adnoddau Deallusrwydd Artiffisial i Redeg Busnes yn Effeithlon
- Modiwl 6: 7 Ebrill – Dod â Phopeth Ynghyd: Eich Cynllun Busnes
Diolch arbennig i Lloyds Bank Academy am fod yn bartner i ni ar y rhaglen hon.