Marchnad Stryd Bae Colwyn – Cyfle i ReoliYn ddiweddar mae Marchnad Bae Colwyn wedi cael caniatâd cynllunio am dair blynedd arall ar Ffordd yr Orsaf ac ymlaen i Sea View Road yma yng nghanol Bae Colwyn yn Sir Conwy, Gogledd Cymru.
Gan fod dyfodol y farchnad wedi ei ddiogelu mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn chwilio am weithredwr masnachol profiadol gydag ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau rhagorol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer a sydd â gwybodaeth ymarferol dda ynglŷn â’r ddeddfwriaeth statudol berthnasol.
Ar hyn o bryd cynhelir marchnad Bae Colwyn ar ddydd Mawrth a dydd Sadwrn a hynny drwy’r flwyddyn ac mae’n cynnig ystod eang o nwyddau o ansawdd, gwerth am arian a man cyfarfod sydd ei angen yn fawr er mwyn rhoi cyfle i holl aelodau’r gymuned i gymdeithasu. Ond i symud ymlaen mae gan y farchnad ganiatâd i gael ei chynnal saith diwrnod yr wythnos drwy’r flwyddyn yn ddibynnol ar gynllun y rheolwyr ar gyfer y dyfodol.
Mae’r farchnad mewn lleoliad perffaith a gellir cerdded yma o orsaf drenau Bae Colwyn mewn dau funud. Hefyd mae’r manteision o fod ger ffordd yr A55 ac felly gall trigolion lleol ac ymwelwyr ddod yma’n hawdd.
Y dyhead yw y bydd rheolwyr marchnad Bae Colwyn yn darparu gwasanaeth o’r radd flaenaf gan ddarparu dulliau arloesol o ddatblygu, cynyddu a gweithredu’r farchnad yn gyffredinol yn ogystal â gweithgareddau a digwyddiadau masnachu stryd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn chwilio am ymgeiswyr sydd â diddordeb a fyddai’n ymgeisio gyda chynnig busnes gan ddangos fod eu sgiliau, gwybodaeth a phrofiad yn gallu diwallu dyheadau mawr yr awdurdod a’r gymuned leol.
Am fwy o fanylion a gwybodaeth cysylltwch â Colin James-Davies.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 31 Ionawr 2020 gyda chyfweliadau i’w cynnal ym mis Chwefror / Mawrth 2020.
Dylid cyflwyno ceisiadau drwy e-bost i:
Colin James-Davies
Swyddog Datblygu Prosiect Strategaeth Twf
E-bost: colin.james-davies@conwy.gov.uk
Rhif Ffôn: 01492 574 635 : 07935 074 418
Dylid cyflwyno ceisiadau drwy’r post i’r cyfeiriad isod:
AT SYLW: Colin James-Davies
Gwasanaethau Datblygu Cymunedol
Blwch Post 1
Conwy
LL30 9GN