Gweminar

Meet AI-my: Beyond ChatGPT, Beyond Prompts, Beyond Busy

Dydd Iau 30 Gorffennaf, 10am

Mae Busnesau Bach Prydain, gyda chefnogaeth BT, yn eich gwahodd i ymuno â Julie Begbie, Seicolegydd Hapusrwydd a Hyfforddwr Magu Hyder Mewn Deallusrwydd Artiffisial (DA), ar gyfer sesiwn ddiddorol ar droi DA yn bartner meddwl i’ch busnes.

Beth os gallech chi gyflogi aelod tîm sydd wrth eu bodd gyda gwaith gweinyddol, yn mwynhau creu drafftiau cyntaf a byth yn cael llond bol ar waith ymchwil? Dewch i gwrdd ag AI-my.

Yn ystod y sesiwn bydd Julie yn dangos sut i:

• Hyfforddi AI-my fel gweithiwr newydd gwych

• Cael DA i ofyn cwestiynau gwell i chi cyn darparu ateb

• Troi tasg sydd yn gas gennych chi yn rhywbeth mae AI-my wrth ei bodd yn ei wneud

• Arbed oriau bob wythnos yn defnyddio sgyrsiau syml gyda DA

• Creu anogwyr y gellir eu defnyddio dro ar ôl tro sy’n dod yn systemau busnes

Byddwch yn gadael gydag anogwr y byddwch chi’n ei ddefnyddio bob dydd a ffordd newydd sbon o feddwl am DA yn eich busnes.

COFRESTRWCH YMA

SHARE ON