Gwahoddiad i Gwetithdy ‘Purple Flag Kickstart’ ar gyer Llandudno

Dydd Llun 9 Chwefror 2026

Amser: 10:00am – 2:00pm
Lleoliad: Canolfan Fusnes Conwy, Ffordd Cyffordd, Cyffordd Llandudno, LL31 9XX
Darperir cinio

Rydym yn falch i’ch gwahodd i fod yn rhan o Weithdy Purple Flag Kickstart ar gyfer Llandudno. Mae Achrediad Purple Flag yn fenter gydweithredol sydd â’r nod o wella bywiogrwydd, diogelwch ac apêl ein heconomi gyda’r nos a’r nos.  Yn dilyn archwiliad o leoliadau posibl, argymhellwyd mai Llandudno sydd i’w ddefnyddio fel lleoliad peilot – gyda’r gobaith y bydd mwy o drefi yn dilyn yn y dyfodol.

Mae’r Purple Flag, fel y Blue Flag, yn achrediad cydnabyddedig sy’n dynodi safonau uchel a rheoli ansawdd – tra bod y Blue Flag yn berthnasol i draethau a marinas, mae’r Purple Flag yn dathlu rhagoriaeth mewn reoli economïau bywiog a diogel yn ystod y nos yng nghanol trefi a dinasoedd.

Fel rhan o’n taith tuag at gyflawni achrediad Purple Flag, byddwn yn cynnal Gweithdy Kickstart ar:

📅 Dyddiad: Dydd Llun 9 Chwefror 2026
🕙 Amser: 10:00am – 2:00pm
📍 Lleoliad: Canolfan Fusnes Conwy, Ffordd Cyffordd, Cyffordd Llandudno, LL31 9XX
🍽️ Darperir cinio

Y Gweithdy Kickstart yw’r ffordd ddelfrydol o ddechrau ein taith Purple Flag.

Beth i’w ddisgwyl:

  • Digwyddiad rhyngweithiol hanner diwrnod wedi’i deilwra i’ch tywys chi drwy’r broses Purple Flag.
  • Cymysgedd o gyflwyniadau ffurfiol a sesiynau diddorol, sy’n tynnu sylw at fanteision y cynllun ac yn tynnu ar brofiad deiliaid baneri llwyddiannus.
  • Cyflwyniad gan Uwch Aseswr, gan ddefnyddio deunyddiau wedi’u paratoi’n arbennig ar gyfer datblygiad Llandudno.

Cadarnhewch eich presenoldeb trwy gofrestru YMA.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech ragor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Edrychwn ymlaen i gyd-weithio gyda chi a gobeithiaf eich gweld yn y gweithdy.

Cofion gorau

Clare Sharples
Swyddog Prosiect Twristiaeth ac Adfywio
Gwasanaeth Economi a Diwylliant
Cyngor Bwrdeistref Sirol CONWY

clare.sharples1@conwy.gov.uk

Cefnogir y digwyddiad hwn gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU fel rhan o’r Prosiect Gwella a Diogelu’r Economi Ymwelwyr ar gyfer y Dyfodol.

SHARE ON