Great British Energy – Nuclear & Rolls-Royce SMR Supply Chain ConferenceColeg Menai Llangefni, Llangefni,Ynys Môn, LL77 7HY
Iau 22 Hydref and Gwener 23 Hydref • Yn dechrau am 9 y.b.
Bydd y cyfnod cofrestru yn dod i ben ddydd Gwener 25 Medi 2026
Trosolwg
Cyflawni Gyda’n Gilydd
Dysgwch sut all eich sefydliad ddod yn rhan o gadwyn gyflenwi o safon fyd-eang sy’n cyflawni Adweithyddion Modiwlar Bach (SMRs) ar Ynys Môn ac o amgylch y byd. Ymunwch â Great British Energy – Nuclear (GBE-N) a Rolls-Royce SMR yn ein cynhadledd ar y cyd gyntaf ar gyfer y gadwyn gyflenwi, sy’n dwyn ynghyd cyflenwyr, rhanddeiliaid a phartneriaid i gefnogi cenhedlaeth nesaf prosiectau niwclear y DU.
Mynegiant o ddiddordeb yn unig yw’r cofrestru hwn. Er mwyn sicrhau bod cynrychiolwyr yn derbyn y cynnwys a’r cyfleoedd rhwydweithio mwyaf perthnasol, gofynnwn ichi gofrestru am un diwrnod yn unig. Bydd y cyfnod cofrestru yn dod i ben ddydd Gwener 25 Medi 2026. Yn dilyn y cyfnod cofrestru, bydd presenoldeb yn cael ei adolygu ac fe anfonir gwahoddiadau.
Rydym yn disgwyl diddordeb sylweddol ac, er mwyn sicrhau cyfleoedd i gynifer o sefydliadau â phosibl, gofynnwn i un cynrychiolydd yn unig fesul sefydliad gofrestru.
Diwrnod 1 | Dydd Iau 22 Hydref | 09:00-17:30
Cynhadledd Cyflenwyr Cenedlaethol
Dan arweiniad Rolls-Royce SMR, mae’r diwrnod hwn wedi’i anelu at gyflenwyr cenedlaethol sydd â diddordeb mewn dod yn rhan o gadwyn gyflenwi SMR. Bydd cyfle i fynychwyr gyfarfod â phartneriaid Haen 1 Rolls-Royce SMR, cael cipolwg ar gyfleoedd y dyfodol, a deall gofynion cyflenwyr a disgwyliadau’r rhaglen yn well.
Ar gyfer: Cyflenwyr, gweithgynhyrchwyr a darparwyr gwasanaethau cenedlaethol sefydledig sy’n ceisio gwaith gyda chontractwyr Haen 1 a phartneriaid cyflawni seilwaith mawr.
Diwrnod 2 | Dydd Gwener 23 Hydref | 08:00-13:30
Cynhadledd Rhwydwaith Busnesau Bach a Chanolig Lleol a’r Gymuned
Dan arweiniad Great British Energy – Nuclear, mae’r diwrnod hwn yn canolbwyntio ar Fusnesau Bach a Chanolig lleol a chymunedau ar draws Gogledd Cymru ac Ynys Môn. Dysgwch am gyfleoedd rhanbarthol, gofynion sgiliau a sut all sefydliadau lleol gefnogi ac elwa o leoli SMRs yn y rhanbarth.
Ar gyfer: Busnesau bach a chanolig lleol, rhwydweithiau busnes, awdurdodau lleol, darparwyr addysg, a grwpiau cymunedol sydd â diddordeb mewn adeiladu partneriaethau, ceisio cefnogaeth a datgloi cyfleoedd newydd.