Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes ar gyfer pobl 25 oed a Hŷn

Mae’r Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes ar gyfer pobl 25 oed a hŷn yn grant dewisol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth ariannol i unigolion sydd â rhwystrau i sefydlu busnes yng Nghymru.  

Nod y grant yw galluogi unigolion economaidd anweithgar a di-waith 25 oed a hŷn i gychwyn busnes yng Nghymru a bydd yn targedu’n benodol yr unigolion hynny sy’n wynebu rhwystrau o ran dechrau busnes a’r farchnad gyflogaeth.

Mae grant o hyd at £2,000 ar gael i helpu unigolion gyda’r costau hanfodol sy’n gysylltiedig â dechrau’r busnes. Wrth ddarparu’r grant hwn, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi ynoch chi a’ch cynnig busnes. Wrth gael mynediad i’r cyllid, byddwch yn derbyn cymorth i gychwyn busnes a bydd angen i chi brofi hyfywedd eich busnes newydd a’ch incwm arfaethedig yn eich cais.    

Dim ond ar gyfer gwariant refeniw y gellir defnyddio’r grant. Mae hyn yn golygu mai dim ond gwariant a fydd yn ymddangos yng Nghyfrif Elw a Cholled eich Busnes sy’n gymwys.

Y meini prawf cymhwysedd ar gyfer y grant hwn yw:

Rydych yn economaidd anweithgar neu’n ddi-waith

Rydych yn bwriadu cychwyn busnes hunangyflogedig yng Nghymr

Mae gennych gynnig busnes hyfyw a fydd yn darparu digon o incwm personol

DARLLEN MWY

SHARE ON