Derbyn archebion gan bobl i gael aros drosnos yng Nghymru?

Mae’r gyfraith yn newid.

Byddwch yn barod i gofrestru eich llety ymwelwyr yng Nghymru

Mae’r gyfraith yn newid ac os ydych chi’n derbyn archebion gan bobl i gael aros dros nos yng Nghymru

Bydd angen i chi gofrestru gydag Awdurdod Cyllid Cymru cyn hir.

I bwy mae hyn yn berthnasol?

Mae’n berthnasol i unrhyw un sy’n derbyn archebion gan bobl i gael aros dros nos, o letywyr anffurfiol i ddarparwyr proffesiynol, ystafell sbâr i ystafell mewn gwesty. P’un ai yw gwesteion yn aros am un noson neu sawl wythnos, mae’r gofyniad yr un peth. Os ydych chi’n derbyn archebion ar gyfer llety ymwelwyr, rhaid i chi gofrestru.

Beth sydd angen i mi ei wneud?

Mae cofrestru llety ymwelwyr yn agor yn hydref 2026. Byddwch yn barod trwy gofrestru i dderbyn y wybodaeth ddiweddara, gan gynnwys nodyn i’ch atgoffa pan fydd y cofrestru’n agor.

Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn cynnal gweminarau i’ch helpu i baratoi ar gyfer y newidiadau

Mae’r weminarau ar gyfer:
  • llwyfannau archebu a chyrff twristiaeth
  • darparwyr llety ymwelwyr

Bydd y weminarau’n canolbwyntio ar:

  • y diweddaraf ar gofrestru llety ymwelwyr
  • canllawiau ymarferol ar yr hyn sydd angen i chi ei wneud
  • atebion i’ch cwestiynau gan arbenigwyr Awdurdod Cyllid Cymru (ACC)

Gweminarau cyfrwng Saesneg

Gweminarau cyfrwng Cymraeg

NEU COFRESTRWCH AR GYFER GWEMINAR YMA

Gweminarau blaenorol

I gael gwybod mwy a chofrestru i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i

llyw.cymru/cofrestrullety

SHARE ON