Cynllun Gwefru yn y Gweithle

Mae’r Cynllun Gwefru yn y Gweithle (WCS) yn gynllun talebau sy’n rhoi cymorth i fusnesau cymwys tuag at gostau cychwynnol prynu a gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan (EV).
 Gall pob busnes ei ddefnyddio i helpu i ddarparu pwyntiau gwefru i’w staff neu fflyd. Gall elusennau a busnesau llety bach ei ddefnyddio ymhellach i ddarparu pwyntiau gwefru ar gyfer eu gwesteion neu ymwelwyr.

Mae’r grant yn talu am hyd at 75% o gyfanswm costau prynu a gosod pwyntiau gwefru EV (gan gynnwys TAW), wedi’i gapio ar uchafswm o:

  • £350 y soced
  • 40 soced ar draws pob safle fesul ymgeisydd – er enghraifft, os hoffech eu gosod mewn 40 safle, bydd gennych 1 soced ar gael fesul safle

Dyddiad cau: 31 Mawrth 2024, 11:59pm

CLICIWCH YMA I WYBOD MWY

SHARE ON