**Sylwch os gwelwch yn dda fod y meini prawf a’r cymhwyster ar gyfer Grant Cymorth Busnes Conwy wedi’u diweddaru. Rhaid i unrhyw geisiadau a gyflwynir o'r 1 o Fawrth 2026 ymlaen gydymffurfio â’r cynllun sydd wedi’i ddiweddaru.**
Mae Grant Cefnogi Busnes Conwy (CBSG) yn grant dewisol i gefnogi twf Busnesau, Mentrau Cymdeithasol (sy’n ymgymryd â gweithgareddau masnachol) neu brosiectau arallgyfeirio ffermydd yng Nghonwy.
Bydd y gronfa yn galluogi darparu grantiau i gefnogi twf economaidd a chynaliadwyedd trwy gyflawni ystod o brosiectau datblygu busnes.
Er mwyn cael ei ystyried, mae’n rhaid i’ch prosiect allu dangos pa ganlyniadau a gyflawnwyd o ganlyniad i’r datblygiad busnes, megis:
Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn cymorth buddsoddi, mae’n rhaid i fusnesau gael eu lleoli a’u gweithredu yn Sir Conwy, wedi bod yn masnachu dros 6 mis ac wedi cofrestru gyda CaThEF.
Bydd ceisiadau'n cael eu gwneud drwy’r ffurflen ar-lein. Ynghyd â’r ffurflen gais bydd angen nifer o ddogfennau ategol eraill.
Darllenwch y ddogfen ganllaw yn llawn i sicrhau bod yr holl wybodaeth ynghlwm cyn cyflwyno’r cais.
Canllawiau a ffurflenni:
Mae'r cynllun grant hwn yn ddewisol a bydd yn cael ei weithredu ar sail y cyntaf i'r felin, yn dibynnu ar argaeledd arian a’r gallu i gwblhau'r prosiect o fewn y cyfnod penodol.
Ni ystyrir fod ceisiadau wedi eu cyflwyno’n llawn hyd nes bod yr holl wybodaeth sydd ei hangen wedi ei derbyn.
Gofynnir i chi siarad ag aelod o’r Tîm Cymorth Busnes cyn cyflwyno unrhyw gais. I siarad ag aelod o’r tîm, anfonwch neges e-bost at business@conwy.gov.uk.