Grant Datblygu Eiddo Masnachol

Cyllid gan Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru

i gynnig grantiau buddsoddi cyfalaf i adfywio eiddo masnachol yng nghanol trefi blaenoriaeth Bae Colwyn, Abergele a Phensarn, a Llandudno

Rydym wedi sicrhau cyllid gan Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru i gynnig grantiau buddsoddi cyfalaf i adfywio eiddo masnachol yng nghanol trefi blaenoriaeth Bae Colwyn, Abergele a Phensarn, a Llandudno.

Gellir defnyddio’r grant i wella blaen adeiladau, rhoi defnydd busnes buddiol i arwynebedd llawr masnachol gwag, neu roi ail-bwrpas i eiddo lle bo hynny'n briodol - er enghraifft rhoddir ystyriaeth i swyddfeydd, manwerthu a bwyd a diod.

Mae’r gronfa ar gael i berchnogion rhydd-ddaliadol yr eiddo, neu feddianwyr sydd â phrydles gyda 7 mlynedd neu fwy ar ôl ar ddyddiad y cais, ac sydd wedi cael caniatâd ysgrifenedig gan eu landlord ar gyfer y gwaith arfaethedig.


Disgwylir i bob prosiect a gefnogir gan y cynllun gyfrannu at rai o’r allbynnau canlynol yn Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru:

  • Nifer y swyddi yn y lleoliad (a alluogwyd trwy’r buddsoddiad adfywio)
  • Mentrau / busnesau yn y lleoliad
  • Nifer y metrau sgwâr a grëwyd neu a ailwampiwyd fel safle amhreswyl
  • Nifer y safleoedd amhreswyl a grëwyd neu a ailwampiwyd
  • Nifer yr unedau amhreswyl sydd yn cael eu defnyddio eto
  • Nifer y BBaChau yng Nghymru sy’n sicrhau contractau’n llwyddiannus
  • Gwerth y contractau a ddyfernir i BBaChau yng Nghymru

CLICIWCH YMA I GAEL RHAGOR O WYBODAETH

I drafod eich cynnig, cysylltwch â:

Katie Minton-Rowlands
Swyddog Prosiect Eiddo ac Adfywio

Rhif Ffôn: 01492 577329 or 01492 574574
E-bost: katie.minton-rowlands3@conwy.gov.uk