Cwrdd yng NghymruMae Croeso Cymru wedi lansio Cwrdd yng Nghymru i hyrwyddo Cymru fel lleoliad ar gyfer cyfarfodydd, mentrau, cynadleddau a digwyddiadau, a syniadau meithrin tîm a lletygarwch corfforaethol.
Bu i Gymru dynnu sylw at fudd natur er lles unigolyn drwy lansio ‘Blwyddyn Awyr Agored’ yn ystod y digwyddiad IBTM World yn Barcelona.
Agorwyd Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru ym mis Medi 2019 ac mae’r ganolfan eisoes yn adnabyddus am ei ffordd unigryw o gynnwys yr awyr agored, gyda golygfeydd arbennig o goetir, golau dydd naturiol ym mhob rhan o’r adeilad ac ardaloedd cyfarfod yn yr awyr agored.
Mae Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yn lleoliad gwbl newydd i Gymru ac mae’n sefydlu’r wlad gyfan fel lleoliad delfrydol ar gyfer digwyddiadau busnes.
Cliciwch YMA i gael rhagor o wybodaeth (1)
I gael rhagor o wybodaeth am gynnyrch Cymru ac i gofrestru ar gyfer yr e-newyddlen, ewch i’r wefan MeetInWales.com
Cewch hefyd gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar y cyfryngau cymdeithasol:
Twitter / LinkedIn / Instagram
#CwrddyngNghymru