Y Papur £20 NewyddMae Banc Lloegr wedi datgelu dyluniad y papur £20 newydd yn ddiweddar, sy’n cynnwys llun yr artist JMW Turner.
Bydd yn cael ei gyhoeddi am y tro cyntaf ar 20 Chwefror 2020.
Mae’r papur £20 polymer yn cynnwys nodweddion diogelwch tra datblygedig, sy’n golygu mai dyma bapur banc mwyaf diogel Banc Lloegr hyd yma. Am y tro cyntaf, mae’r papur yn ymgorffori dwy ffenestr a ffoil dau liw, gan ei wneud yn anodd iawn ei ffugio.
Mae papurau polymer yn para’n hirach na’r hen bapurau ac yn aros mewn gwell cyflwr o’u defnyddio o ddydd i ddydd. Bydd y papur hwn, fel y £10 polymer, yn cynnwys nodwedd gyffyrddol i helpu pobl â nam ar eu golwg i adnabod ei werth.
Gall y cyhoedd barhau i wario’r papur £20 presennol fel arfer a bydd y rhain yn cael eu tynnu’n ôl yn raddol wrth i fanwerthwyr a’r cyhoedd eu bancio. Bydd rhybudd yn cael ei roi chwe mis cyn tynnu statws arian cyfreithlon y papur £20 presennol yn ôl.