Cymru’n cyhoeddi “Blwyddyn Awyr Agored”

Mae Croeso Cymru wedi cyhoeddi mai’r thema ar gyfer 2020 fydd ‘Blwyddyn Awyr Agored’.

Mae’r thema hon yn dilyn thema 2019 sef ‘Blwyddyn Darganfod’.

Bydd y Flwyddyn Awyr Agored yn dathlu tirweddau naturiol ysblennydd Cymru, sydd yn llawn anturiaethau blaenllaw a diwylliant cyfoes a nodedig. Bydd Llwybr Yr Arfordir sy’n 870 milltir; 3 Parc Cenedlaethol; 600 Castell, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Gwarchodfeydd Awyr Dywyll – i gyd yn cael eu mwynhau yn 2020.

Mewn ymateb i’r adborth gan y diwydiant, bydd y thema o 2020 ymlaen yn para am 2 flynedd.

Mae’r blynyddoedd thematig wedi’u cefnogi gan y diwydiant, ac maent yn canolbwyntio’n glir ar gydweithio a newid cynnyrch ledled Cymru – gyda chyfnod hwy yn rhoi mwy o gyfleoedd ar gyfer prosiectau a syniadau mwy.

Bydd Blwyddyn Awyr Agored yn cynnwys dwy arddangosfa ryngwladol fawr i’w cynnal yn 2020 yng Ngwesty’r Celtic Manor a Chanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru.

Am fwy o wybodaeth, cliciwch YMA

 

 

SHARE ON