Achub y Stryd Fawr – Archwiliad Iechyd y Stryd Fawr 2020

Allwch chi helpu i ledaenu’r gair?

Yr wythnos hon, lansiodd Achub y Stryd Fawr ymgyrch i archwilio iechyd y stryd fawr.

Eu nod yw deall pa mor barod yw’r stryd fawr i gwrdd â’r heriau yn 2020…

… Tra’n helpu pob busnes lleol sy’n llenwi’r arolwg i gyflawni eu potensial eu hunain ar y stryd fawr eleni.

Po fwyaf o fusnesau sy’n ymuno â’r ymgyrch, po fwyaf cyflawn yw’r darlun a ddatblygir o heriau a chyfleoedd ar draws y DU, ym mhob sector ac ar bob stryd fawr.

Fel yr amlinellwyd ar dudalen flaen yr arolwg … bydd pob busnes ar y stryd fawr sy’n ei lenwi yn derbyn adroddiad archwiliad iechyd a sgôr, 3 syniad gorau i ddatblygu eu refeniw, mynediad i ddata unigryw ar eu cyfleoedd marchnad eu hunain a’r dewis o alwad ymgynghoriaeth gydag arbenigwr marchnata ar y stryd fawr. Y cyfan am ddim.

Byddwn hefyd yn rhannu canfyddiadau o’r ymchwil hwn (dienw wrth gwrs) gydag unrhyw un sy’n ymuno neu’n cefnogi’r ymgyrch y mis hwn.

Bydd yr arolwg yn aros yn agored drwy fis Ionawr gyda busnesau yn derbyn eu harchwiliad iechyd eu hunain erbyn yr wythnos gyntaf ym mis Chwefror fan bellaf.

Dylai’r arolwg gymryd tua 9 munud i’w gwblhau.

LINK I AROLWG

 

SHARE ON