Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol
Bydd cynllun sgiliau a chyflogadwyedd newydd yn anelu at fodloni’r galw am hyfforddiant ac addysg mewn sectorau allweddol ar draws Gogledd Cymru.
Bu’r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol yn cydweithio gyda phartneriaid preifat a sector cyhoeddus i lunio strategaeth 2019 – 2022.
Mae’r cynnwys yn canolbwyntio ar gyflenwad, galw a darpariaeth hyfforddiant sgiliau ar draws y chwe sir, gyda phwyslais ar gydweithio agos gyda cholegau, prifysgolion ac arweinwyr y diwydiant i nodi a rhannu arferion da ar ddatblygiad staff a dysgu seiliedig ar waith.