Webinar
Dod â’ch Busnes Ar-lein:
Canllaw Cynhwysfawr i Fusnesau Bach a Chanolig
Tri dyddiad ar gael: 12 Awst / 23 Medi / 21 Hydref
1.00pm – 2.30pm
Cost: Am ddim
Mae’r weminar hon yn ganllaw cynhwysfawr i fusnesau bach a chanolig (BBaCh), lle byddwn yn eich arwain drwy’r prif gamau i sefydlu a sicrhau twf eich busnes yn y byd digidol.
Yn ystod y weminar hon:
- Diffinio eich Nodau: Deall pwysigrwydd gosod amcanion clir a chyraeddadwy ar gyfer eich taith ar lein.
- Brandio: Dysgwch sut i greu brand cryf sy’n denu sylw yn y farchnad ddigidol.
- Datblygu Gwefan: Dysgwch hanfodion creu gwefan lwyddiannus sy’n hawdd i’w defnyddio.
- Meistroli’r Cyfryngau Cymdeithasol: Cyngor ar ddewis y llwyfannau addas, o Facebook, Instagram, TikTok a mwy, i greu cynnwys diddorol.
- Strategaethau Marchnata Ar-lein: Archwiliwch wahanol dactegau marchnata ar-lein i ddenu a chadw cwsmeriaid.
- Hanfodion Optimeiddio Peiriannau Chwilio: Dysgwch hanfodion optimeiddio peiriannau chwilio i fod yn fwy gweladwy.
- Dadansoddeg a Mewnwelediad: Deall sut i fonitro a dadansoddi eich perfformiad ar-lein.
- Ymgysylltu â Chwsmeriaid: Darganfyddwch ffyrdd effeithiol o gysylltu gyda’ch cwsmeriaid ac adeiladu ffyddlondeb.
Pam y dylech fynychu?
- Mewnwelediadau Arbenigol: Cyfle i ddysgu gwybodaeth werthfawr gan arbenigwyr yn y diwydiant gyda blynyddoedd o brofiad.
- Cyngor y gallwch weithredu arno: Dysgwch gamau ymarferol y gallwch eu gweithredu ar unwaith.
- Sesiwn Holi ac Ateb Rhyngweithiol: Cyfle i gael atebion i’ch cwestiynau yn fyw gan ein panel o arbenigwyr.
Pwysig – Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint yng nghymru ac mae wedi’i gyfyngu i ddau gynrychiolydd o bob busnes.
Caiff y digwyddiad hwn ei gyflwyno gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru