Ymunwch ag ymgyrch ailgylchu mwyaf Cymru’r haf hwn

Pecyn adnoddau partneriaid am ddim ar gael nawr

 

Rydym yn gwahodd atyniadau ymwelwyr, cyrchfannau a busnesau twristiaeth ledled Cymru i gymryd rhan yn ymgyrch ailgylchu oddi cartref cyntaf Cymru yn Ailgylchu.

Mae ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha. yn cael ei gynnal drwy gydol haf 2026, yn annog pobl i ddewis y bin cywir pan fyddan nhw allan yn crwydro ein cenedl hardd yn ystod tymor y gwyliau, gan helpu i wneud ailgylchu yn hawdd, yn werth chweil ac yn arfer cyffredin i ni yng Nghymru.

Mae Cymru eisoes yn 2il genedl orau’r byd am ailgylchu, amdani i gyrraedd y brig!

Drwy ymuno â’r ymgyrch, byddwch yn helpu ymwelwyr i roi’r pethau cywir yn y biniau cywir, gwella cyfraddau ailgylchu, lleihau halogiad a bod yn rhan o fudiad cenedlaethol i helpu Cymru fod yn genedl orau’r byd am ailgylchu.

Mae popeth sydd ei angen arnoch yn barod i’w ddefnyddio

Mae’r pecyn adnoddau am ddim yn cynnwys fideos, animeiddiadau, calendr cyfryngau cymdeithasol, erthyglau y gellir eu teilwra a phosteri trawiadol.

Mae dechrau arni yn hawdd

Cam 1: Cofrestrwch  fel partner ar Lyfrgell Adnoddau WRAP yn gyntaf (os nad oes gennych gyfrif eisoes).

Cam 2: Lawrlwythwch y pecyn adnoddau dwyieithog yn  Gymraeg  neu yn  Saesneg  a gallwch ddechrau defnyddio’r adnoddau ar unwaith.

Eisiau gwybod mwy?

Dysgwch fwy am yr ymgyrch, ein dull creadigol a sut i fanteisio i’r eithaf ar yr adnoddau:

🎥 Gwyliwch y weminar YMA

Lawrlwythwch yr adnoddau, ac ymunwch â’r ymgyrch i helpu i gael Cymru i Rif 1 yr haf hwn!

SHARE ON