Helpwch i lunio dyfodol ein SirMae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych wedi lansio dau arolwg yn ddiweddar i geisio barn pobl am Sir Conwy a’u blaenoriaethau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.
Bydd yr atebion yn cael eu defnyddio i lunio asesiad lles y sir ac yn helpu i hysbysu gwelliannau mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Mae’r arolygion ar agor nawr a bydd yn cau ar ddydd Gwener, 31 Gorffennaf 2026
Mae copïau papur ar gael yng Nghoed Pella neu unrhyw lyfrgell yn Sir Conwy. Mae’r arolygon ar gael mewn fformatau eraill ar gais trwy gysylltu â SgwrsYSir@conwy.gov.uk.