Ymgynghoriad ar y Dreth YmwelwyrAr 14 Mai 2026, cymeradwyodd y Cyngor symud ymlaen i ymgynghoriad cyhoeddus ar y posibilrwydd o gyflwyno Ardoll Ymwelwyr ar draws y sir. Agorwyd yr ymgynghoriad yn ffurfiol ar 20 Mai 2026.
Gellir cael mynediad at yr ymgynghoriad ar-lein drwy wefan y Cyngor:
Ymgynghoriad arfaethedig ar y dreth ymwelwyr yn Sir Conwy – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Bydd copïau papur o’r ymgynghoriad hefyd ar gael i’w casglu a’u dychwelyd mewn Canolfannau Gwybodaeth i Dwristiaid, Llyfrgelloedd Conwy, Canolfan Fusnes Conwy, a Swyddfeydd y Cyngor yng Nghoed Pella.