Ymgynghoriad ar y Dreth Ymwelwyr

YNGYNGHORIAD YN CAU 17 GORFFENNAF 2026

Ar 14 Mai 2026, cymeradwyodd y Cyngor symud ymlaen i ymgynghoriad cyhoeddus ar y posibilrwydd o gyflwyno Ardoll Ymwelwyr ar draws y sir. Agorwyd yr ymgynghoriad yn ffurfiol ar 20 Mai 2026.

Mae’r ymgynghoriad yn agored i holl drigolion, ymwelwyr a busnesau Conwy a byddem yn eich annog i gymryd rhan a’i hyrwyddo’n eang yn eich ardaloedd lleol.

Gellir cael mynediad at yr ymgynghoriad ar-lein drwy wefan y Cyngor:
Ymgynghoriad arfaethedig ar y dreth ymwelwyr yn Sir Conwy – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Bydd copïau papur o’r ymgynghoriad hefyd ar gael i’w casglu a’u dychwelyd mewn Canolfannau Gwybodaeth i Dwristiaid, Llyfrgelloedd Conwy, Canolfan Fusnes Conwy, a Swyddfeydd y Cyngor yng Nghoed Pella.

Gofynnir am ymatebion erbyn 17 Gorffennaf 2026 fan bellaf.

Mae rhaglen o ddigwyddiadau a sesiynau galw heibio wedi’u trefnu i roi cyfle i fusnesau, ymwelwyr a thrigolion glywed mwy am y broses ymgynghori ac ymgysylltu wyneb yn wyneb os yw’n well ganddynt.

SHARE ON