Digwyddiadau ymgynghori ardoll ymwelwyr

2 Mehefin – 25 Mehefin

 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy eisiau eich barn ar y posibilrwydd o gyflwyno ardoll ymwelwyr ar bob arhosiad dros nos cymwys.

Agorodd yr ymgynghoriad yn ffurfiol ar 20fed o Fai 2026 ac mae ar agor i bob preswylydd, ymwelydd a busnes yng Nghonwy. Byddem yn eich annog i gymryd rhan a’i hyrwyddo’n eang yn eich ardaloedd lleol. Gofynnir am ymatebion erbyn 17 Gorffennaf 2026 fan bellaf.

Mae rhaglen o ddigwyddiadau a sesiynau galw heibio wedi’u trefnu i roi cyfle i fusnesau, ymwelwyr a thrigolion glywed mwy am y broses ymgynghori ac ymgysylltu wyneb yn wyneb os yw’n well ganddynt.

Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal yn y llefydd canlynol.Dewiswch sesiwn, a gadewch i ni wybod os ydych yn dod drwy gadw eich lle drwy Eventbrite os gwelwch yn dda:

• Dydd Mawrth 2 Mehefin 2026 – Sesiwn sy’n canolbwyntio ar groeso ar gyfer busnesau arfordirol.

• Dydd Iau 4 Mehefin 2026 – Sesiwn galw heibio ar gyfer busnesau, preswylwyr ac ymwelwyr yn Llanrwst.

• Dydd Mawrth 16 Mehefin 2026 – Sesiwn galw heibio ar gyfer busnesau, preswylwyr ac ymwelwyr ym Mhenmaenmawr / Llanfairfechan.

• Dydd Mercher 17 Mehefin 2026 – Sesiwn galw heibio i fusnesau, trigolion ac ymwelwyr yng Nghonwy / Deganwy / Llandudno.

• Dydd Iau 18 Mehefin 2026 – Sesiwn galw heibio i fusnesau, trigolion ac ymwelwyr ym Mae Colwyn / Llandrillo-yn-Môr.

• Dydd Mawrth 23 Mehefin 2026 – Sesiwn sy’n canolbwyntio ar letygarwch ar gyfer busnesau gwledig.

• Dydd Iau 25 Mehefin 2026 – Sesiwn galw heibio i fusnesau, trigolion ac ymwelwyr yn Abergele / Bae Cinmel / Towyn.

Byddem yn eich annog i ddod i un o’r digwyddiadau i gael gwybod mwy ac i rannu eich barn.

Diolch yn fawr

SHARE ON